Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Ionawr 2022
Amser:
14.00 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12586
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Chris Cousens, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub Bleddyn Jones, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Nikki Kemmery, Dŵr Cymru Dominic Robinson, Severn Trent & Hafren Dyfrdwy Paula Steer, United Utilities |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Sesiwn Dystiolaeth (Panel 1) P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru a Bleddyn Jones o wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Aelod o Grŵp Llywio Diogelwch Dŵr Cymru.
3 Sesiwn Dystiolaeth (Panel 2) P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nikki Kemmery, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch, Dŵr Cymru, Paula Steer, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Gwasanaethau Ystadau, United Utilities, a Dominic Robinson, Arweinydd Profiad Ymwelwyr, Severn Trent a Hafren Dyfrdwy.
4 Deisebau newydd
4.1 P-06-1220 Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Menywod, Addysg ac Ymwybyddiaeth
Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd am godi'r mater pwysig a chytunwyd i gadw golwg ar y ddeiseb dros yr wythnosau nesaf, yng ngoleuni'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud ar hyn o bryd.
4.2 P-06-1222 Gwahardd barbeciws untro o'n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gwasanaeth Tân ac at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am eu safbwynt ar farbeciws untro.
4.3 P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr
Mae’n Aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y Senedd.
Cydnabu’r Pwyllgor y pryderon difrifol a godwyd gan y ddeiseb ynghylch tai fforddiadwy a’r effaith negyddol ar gymunedau lleol ledled Cymru. O ystyried natur gymhleth y pryderon hyn, croesawodd y Pwyllgor y ffaith bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymchwiliad manwl i’r maes hwn, a chytunwyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys y materion a godwyd yn y ddeiseb hon fel rhan o'i ymchwiliad.
Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
4.4 P-06-1225 Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir
Tynnodd Cadeirydd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei chrybwyll yn nadl y Senedd a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr ynghylch amddiffyn gwiwerod coch.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am amserlen canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r ddeddfwriaeth y cyfeiriwyd atynt yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr, a chytunwyd hefyd i gau’r ddeiseb ar ôl i lythyr y Gweinidog ddod i law a chael ei rannu â’r deisebydd.
4.5 P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau haf 2021
Cydnabu’r Pwyllgor ymroddiad a gwaith caled athrawon ledled Cymru sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod plant yn parhau i gael mynediad at addysg.
Nododd yr Aelodau nad yw'r Gweinidog yn cynnig unrhyw gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol, a chytunwyd i ysgrifennu at Gymwysterau Cymru i ofyn am ganfyddiadau'r arolwg o’r cyfnod pennu graddau.
4.6 P-06-1229 Cynyddu’r cyllid ar gyfer Clinigau Hunaniaeth Rywedd yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn fodlon ar y cynnydd a adroddwyd ac a fwriedir ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, felly diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am dynnu sylw at fater mor bwysig a chaewyd y ddeiseb.
4.7 P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn beth fyddai’r ffordd orau ymlaen i sicrhau bod y wybodaeth ar gael i sefydliadau ac ysgolion am sut i gael gafael ar arian i brynu diffibrilwyr.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1 P-05-937 Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati) - Y wybodaeth ddiweddaraf yn sgil gwaith ymchwil newydd
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn pa ystyriaeth y mae wedi’i rhoi i adroddiad Ysgol Economeg Llundain ar allu decapodau i ymdeimlo, ac awgrymwyd hefyd y dylid ehangu’r diffiniad o anifeiliaid yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006 i gynnwys infertebratau.
5.2 P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i rannu’r pryderon a’r awgrymiadau a godwyd gan RSPCA Cymru a Blue Cross ac i ofyn am eglurhad ynghylch a oes unrhyw drefniadau i roi cymorth ariannol i orfodi o ran gweithredu deddfwriaeth a rheoliadau ar waith yn y maes hwn.
5.3 P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol
Nododd y Pwyllgor y flaenoriaeth sydd gan iechyd meddwl ym mlaenraglen waith y Pwyllgor Iechyd a Chymdeithasol a chytunwyd i annog y deisebydd i achub ar y cyfle i gyfrannu i ymgynghoriad y Pwyllgor hwnnw.
Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am godi mater mor bwysig â hwn.
5.4 P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru
5.5 P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei
Nododd y Pwyllgor fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan nad yw’n ystyried cynllun llifogydd ar gyfer Afon Tywi yng Nghaerfyrddin ar hyn o bryd, ac felly mae’n ymddangos nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ynglŷn â’r mater. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
6 Papur i’w nodi - P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL
Nodwyd y papur.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 8.
Derbyniwyd y cynnig.
8 Trafod y dystiolaeth - P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.